LAND SOUTH OF FELINDRE ROAD, PENCOED / TIR I'R DE O HEOL FELINDRE, PENCOED

 
 

Asbri Planning Ltd. has been commissioned by South Wales Police and Crime Commissioner to undertake pre-application consultation in respect of the development of a tactics facility, external equipment and associated access, landscaping, engineering and infrastructure works on land south of Felindre Road, Pencoed, CF35 5HZ.

Prior to formal submission to the Local Planning Authority and in accordance with the requirements set out in Part 1A of the Town & Country Planning (Development Management Procedure) (Wales) Order 2012, the proposal will be subject to pre-application consultation.

The site straddles the administrative boundary of Bridgend County Borough Council (BCBC) and Rhondda Cynon Taff County Borough Council (RCTCBC), with some aspects of the proposal lying within each authority area. As such, two planning applications need to be submitted, one to each LPA, so each LPA can determine the elements of the planning application that lie within their administrative boundary. A single Pre-Application Consultation is being completed prior to the submission of two separate planning applications to each Local Planning Authority; it is considered that the site needs to be assessed holistically by the local community and statutory consultees.

The application description for the Bridgend element is “Development of a tactics facility building, external tactics equipment and associated access, landscaping, engineering and infrastructure works (additional external tactics equipment, maintenance access, landscaping and engineering infrastructure works within RCT associated with the tactics facility building subject to a separate planning application being submitted to RCT County Borough Council)”.

The application description for the RCT element is “External tactics equipment, maintenance access, landscaping, engineering and infrastructure works associated with the tactics facility building located within Bridgend County Borough Council (tactics facility building subject to a separate planning application being submitted to Bridgend County Borough Council)”.

All relevant drawings, reports and supplementary supporting documents are made available for inspection and review online below. If you are unable to access the documents electronically you may request copies of this information by emailing mail@asbriplanning.co.uk or by telephoning the applicant on 02920 732652.

Anyone who wishes to make representations about this proposed development must do so by the 30th September 2022.  We would encourage you to e-mail these to mail@asbriplanning.co.uk, alternatively please download the attached form, and send them to;

Asbri Planning Ltd, Unit 9 Oak Tree Court, Mulberry Drive, Cardiff Gate Business Park, Cardiff, CF23 8RS.

Given the unusual nature of this consultation, we would also encourage anybody who wishes to discuss the proposals prior to issuing formal representations to contact Asbri where you will be directed to somebody who can assist with any queries.

Mae Asbri Planning Ltd. wedi’i gomisiynu gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru mewn perthynas â chais cynllunio llawn ar gyfer datblygu cyfleuster tactegau gyda offer allanol, mynediad cysylltiedig, gwaith tirlunio, peirianneg ac isadeiledd.

Cyn ei gyflwyno’n ffurfiol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol â’r gofynion a nodir yn Rhan 1A o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012, bydd y cais yn destun ymgynghoriad cyn ymgeisio.

Mae'r safle'n ffinio â ffin weinyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP) a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBSRhCT), gyda rhai agweddau o‘r cais wedi’u lleoli o fewn ardal y ddau awdurdod. Mae angen felly cyflwyno dau gais cynllunio fel y gall y ddau ACLl benderfynu ar yr elfennau o’r cais cynllunio sydd o fewn eu ffin gweinyddol. Mae un Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio yn cael ei gwblhau ar gyfer y ddau gais cynllunio; ystyrir bod angen i'r safle gael ei asesu'n gyfannol gan y gymuned leol ac ymgynghorai statudol.

Dyma ddisgrifiad o’r cais i’w gyflwyno ym Mhen-y-bont ar Ogwr: “Datblygiad adeilad cyfleuster tactegau, offer tactegau allanol a mynediad cysylltiedig, gwaith tirlunio, perianneg ac isadeiledd (bydd offer tactegau allanol ychwanegol, mynediad cynnal a chadw, tirlunio a gwaith isadeiliedd peirianyddol yn RhCT sy'n gysylltiedig â'r adeilad cyfleuster tactegau yn destun cais cynllunio ar wahan a fydd yn cael ei gyflwyno i Gyngor Bwrdeistref Sirol RhCT)”.

Dyma ddisgrifiad o’r cais i’w gyflwyno yn RhCT; “Offer tactegau allanol, mynediad cynnal a chadw, gwaith tirlunio, peirianneg ac isadeiledd sy’n gysylltiedig ac adeilad cyfleuster tactegau sydd wedi eu lleoli o fewn ffiniau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (adeilad cyfleuster tactegau yn destun cais ar wahan a fydd yn cael ei gyflwyno i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr)”.

Mae'r holl gynlluniau, adroddiadau a dogfennau perthnasol ar gael i'w archwilio a'u hadolygu ar-lein isod. Os nad ydych yn gallu gweld y dogfennau yn electronig, gallwch ofyn am gopïau o’r wybodaeth drwy e-bostio mail@asbriplanning.co.uk neu drwy ffonio’r asiant ar 02920 732652. Yn ogystal, gallwch gwblhau'r ffurflen atodol a'i ddychwelyd atom.

Dylai unrhyw un sydd yn dymuno gwneud sylwadau ynglŷn a’r datblygiad arfaethedig ysgrifennu at yr asiant drwy ebostio mail@asbriplanning.co.uk neu Asbri Planning Ltd, Uned 9 Oak Tree Court, Mulberry Drive, Cardiff Gate Business Park, Caerdydd, CF23 8RS erbyn 30ain o Fedi 2022.

O ystyried natur anarferol yr ymgynghoriad hwn, byddem hefyd yn annog unrhyw un sydd yn dymuno trafod y cynigion, cyn cyflwyno sylwadau ffurfiol, i gysylltu ag Asbri. Cewch eich cyfeirio at rywun a all helpu gydag unrhyw ymholiadau.

 
 
 
 
Previous
Previous

FFORDD Y FELIN, BRYNCRUG, TYWYN, GWYNEDD

Next
Next

WILLOWS HIGH SCHOOL, LEWIS ROAD, SPLOTT